Nes y bydd y Gweinidog Iechyd wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad ar safon y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru - adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweindog ei hun yn Ionawr 2014 - yna rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Lafur Cymru i ohirio trafod Cynllun Busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n argymell israddio Ysbyty Coffa Ffestiniog i ddim byd mwy na ‘Canolfan Goffa’.
Prif ddeisebydd: Geraint Vaughn Jones
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014
Nifer y llofnodion: 2,754